cy

Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru: Darganfod Dawns

Mae dawns yn un o bum disgyblaeth Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol. Mae Darganfod Dawns gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn berfformiad rhyngweithiol wedi’i ddylunio i ennyn diddordeb, ysgogi ac annog dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau creadigol, artistig a pherfformio.

Mae’r sioe hamddenol a hwyliog, awr o hyd, yn rhoi cyfle i ddysgwyr blynyddoedd 3-6 gwrdd â dawnswyr proffesiynol, i ddysgu am yr hyn maent yn ei wneud o ddydd i ddydd, gofyn cwestiynau iddynt a dysgu ambell i symudiad.

Bydd dysgwyr yn cael gwylio ein dawnswyr proffesiynol wrth eu gwaith wrth iddynt ddawnsio i drac sain bît bocsio a dathlu grym anhygoel dawns a cherddoriaeth ar y llwyfan. Mae’r perfformiad yn llawn egni, ac mae’r dawnswyr yn cael modd i fyw hefyd – felly mae’n hwyl i’w wylio a chymryd rhan.

Mae Darganfod Dawns yn brofiad ysbrydoledig a gwerthfawr, sy’n magu hyder dysgwyr chwilfrydig”. – Athro

Mae Darganfod Dawns yn brofiad ysbrydoledig a gwerthfawr, sy’n magu hyder dysgwyr chwilfrydig wrth ymgysylltu â Dawns fel ffurf ar gelfyddyd.

Mae athrawon sy’n mynychu Darganfod Dawns yn cael mynediad at adnoddau dysgu CDCCymru, sy’n cefnogi’r cwricwlwm celfyddydau mynegiannol newydd, ac maent yn cael cyfle i drefnu gweithdai ychwanegol.

Sicrhewch eich bod yn cael cip ar grant Ewch i Weld Cyngor Celfyddydau Cymru, a all gynnig cyllid ar gyfer tocynnau a thrafnidiaeth i ddigwyddiadau celfyddydol o safon, fel Darganfod Dawns. Gallwn eich helpu gyda’ch cais.

The Welfare Ystradgynlais Y Neuadd Les
Dydd Iau, Mawrth 21 2024 am 1yp
£10 pob plentyn (Mae cyllid ‘Ewch i Weld’ ar gael wrth y CCC) | Athrawon am ddim (un i bob 10 plentyn)
Am fwy o wybodaeth neu i archebu, cysylltwch â Becky: 01639 843163 | boxoffice@thewelfare.co.uk