Mae hygyrchedd a chyfranogiad wrth galon datganiad cenhadaeth y Neuadd Les, a’i nod yw diogelu, datblygu a chyfoethogi diwylliant ein cymuned.
Adeiladwyd y Neuadd Les gydag arian glowyr, a gyllidwyd gan ein cymuned.
“Dylem ymdrechu i’w wneud yn ganolbwynt ein bywyd Cymdeithasol a Diwylliannol – canolfan y bydd cwmnïaeth sy’n cyfoethogi’r gymuned yn deillio ohoni.
Dylai fod yn lleoliad lle daw plant ynghyd i ganu a chwarae; lle bydd pobl ifanc yn dod i ail-greu cyrff a meddyliau; lle daw’r henoed ynghyd i eistedd a gorffwys a dathlu pen draw bywyd gyda hanesion blynyddoedd a fu.
Ein nod oedd darparu ar gyfer agweddau amrywiol ar fywyd. Ceir yma gemau i dreulio amser segur; llyfrgell i gyfoethogi’r meddwl. Yn y Neuadd gallwn gynnal cyngherddau a drama, a thrwy hynny diogelu a datblygu ein Diwylliant.”
Jim Griffiths, Cadeirydd y Pwyllgor 1934