cy

Hurio Lleoliad

Rydym yn cynnig lleoliad hyblyg i’w hurio sy’n cynnig lle ar gyfer amrediad eang o ofynion, megis digwyddiadau hyfforddi a chynadleddau, yn ogystal â digwyddiadau preifat.

Mae cyfleusterau ychwanegol ar gael ar gyfer eich cynhadledd trwy drefnu ymlaen llaw, megis mynediad at y Rhyngrwyd, offer clyweledol a thechnegol. (Efallai y bydd ffi ychwanegol yn berthnasol). Ar gyfer digwyddiadau arbennig, priodas, parti pen-blwydd, gellir trefnu gwasanaethau addurno, arlwyo a blodau am gost ychwanegol.

Ar wahân i Ystafell Bwyllgor Herman, mae’r holl gyfleusterau ar y llawr gwaelod ac felly’n hygyrch i gwsmeriaid anabl. Mae hyn yn cynnwys toiled i’r anabl, coridorau llydan a drysau sy’n addas ar gyfer cadair olwyn.

Os oes angen mwy o wybodaeth neu os hoffech drefnu archebu un o’n hystafelloedd, croeso ichi gysylltu â’r Swyddfa Docynnau ar 01639 843163. Mae ein staff cyfeillgar yma i’ch helpu!