cy

Polisi Preifatrwydd

PWY YDYM NI

Elusen gofrestredig yw Ymddiriedolaeth Lles a Chymunedol Glowyr Ystradgynlais  Cyf (Neuadd Les Ystradgynlais) (rhif 1054054) ac yn gwmni cofrestredig (rhif 02865401), sydd â swyddfa gofrestredig yn Heol Aberhonddu, Ystradgynlais, Abertawe, Powys, SA9 1JJ.

Dan Reoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), mae’n ddyletswydd gyfreithiol ar Neuadd Les Ystradgynlais i ddiogelu unrhyw ddata personol a gesglir gennym, egluro at ba ddiben byddwn yn ei ddefnyddio, a’i wneud yn rhwydd ichi dynnu nôl rhag derbyn unrhyw ddeunyddiau cyfathrebu gennym ar unrhyw adeg. Yn y cyd-destun hwn, mae data personol yn cyfeirio at unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.

Mae ein polisi preifatrwydd yn eich hysbysu ynghylch sut a pham byddwn yn cadw’ch data, pa fath o ddata a gedwir gennym a sut y caiff ei ddefnyddio.

PA DDATA PERSONOL A GESGLIR A SUT Y CAIFF EI DDEFNYDDIO

Data Tocynnau

Pan fyddwch yn prynu tocynnau gennym, neu pan fyddwch yn prynu nwyddau neu wasanaethau megis ymaelodi fel Ffrind, neu docynnau anrhegion, rydym yn casglu data personol megis eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad ebost.

Rydym yn casglu data personol amdanoch er mwyn prosesu unrhyw archebion gennych, i’ch galluogi i ddefnyddio ein gwasanaethau ac i’ch hysbysu os bydd unrhyw ddigwyddiadau neu wasanaethau’n newid (er enghraifft os caiff digwyddiad ei ganslo).

Ticketsolve, sy’n rheoli ein Swyddfa Docynnau ar-lein a chaiff taliadau eu prosesu trwy Realex. Caiff pob archeb – gan gynnwys archebion dros y ffôn neu bersonol – eu prosesu trwy’r systemau hyn.  Am fwy o wyboeth, gweler  hysbysiad preifatrwydd TicketSolve.

Mae Realex Payments  yn gwmni prosesu taliadau ar-lein dibynadwy iawn, sy’n achrededig gyda thystysgrif ‘Account Information Security’ gan VISA ac sy’n cydymffurfio â ‘Payment Card Industry Data Security Standard Version 3.22’, y lefel uchaf bosib o ran cydymffurfiad. Nid ydym yn cadw eich manylion banc ar ein system.

Mae gennym gontract gyda Ticketsolve a Realex i sicrhau y diogelir eich data bob amser.

Data Gwirfoddol

Hwyrach y byddwn yn casglu data personol gennych pan fyddwch yn llenwi arolwg cwsmeriaid yn wirfoddol, trwy roi adborth, yn archebu lle ar weithdai a digwyddiadau am ddim, ac yn cymryd rhan mewn cystadlaethau, er mwyn ein helpu i wella’n rhaglen o wasanaethau a digwyddiadau. Caiff unrhyw ddata personol a gesglir at y dibenion penodol hyn ei ddinistrio pan na fydd ei angen bellach.

Marchnata

Byddwn hefyd yn casglu eich data personol os byddwch yn cytuno, at ddiben marchnata, inni eich hysbysu am ddigwyddiadau  a gwasanaethau eraill all fod o ddiddordeb ichi. Gall hyn gynnwys gwybodaeth am ffilmiau, perfformiadau, arddangosfeydd, cyfleoedd gwirfoddoli, ymaelodi fel Ffrind, ac unrhyw beth arall sy’n rhan o weithgareddau rheolaidd y Neuadd Les.

Byddwn ond yn gwneud hyn os ydych wedi rhoi caniatâd inni adeg y cyswllt cyntaf.

Rydym yn defnyddio darparwr trydydd parti, MailChimp, i anfon ein cylchlythyrau marchnata trwy ebost. Rydym yn casglu ystadegau ynghylch agor negeseuon ebost a chlicio trwy ddefnyddio technoleg sy’n safonol i’r diwydiant i’n helpu monitro a gwella ein e-gylchlythyr. Am fwy o wybodaeth gweler hysbysiad preifatrwydd MailChimp

Gellir datdanysgrifio o dderbyn ein negeseuon ebost unrhyw adeg o’r dydd neu nos drwy glicio’r ddolen datdanysgrifio ar waelod unrhyw neges ebost.

Ni fydd y Neuadd Les yn rhannu eich data personol gyda chwmnïau allanol at ddibenion marchnata.

Codi Arian

Elusen gofrestredig yw Neuadd Les Ystradgynlais, ac felly mae’n dibynnu ar roddion gan unigolion, cwmnïau ac ymddiriedolaethau er mwyn gwireddu ei raglen waith artistig ac addysgol.

Byddem yn hoffi cysylltu â chi o dro i dro i’ch hysbysu am ein gweithgareddau codi arian a gweithgareddau penodol y mae Neuadd Les Ystradgynlais yn gysylltiedig â nhw. Byddwn yn gofyn eich caniatâd adeg y cyswllt cyntaf gyda’r Neuadd Les os hoffech gael eich ychwanegu at y rhestr hon.

Os ydych wedi cytuno i dderbyn deunyddiau codi arian, gallwch ddewis tynnu nôl yn ddiweddarach.

Gwybodaeth Sensitif

Weithiau byddwn yn gofyn ichi roi gwybodaeth sensitif inni, er enghraifft pan fyddwch yn cymryd rhan mewn rhai gweithgareddau, neu wrth ymgeisio am swydd. Yn debyg i unrhyw wybodaeth bersonol sydd gennym, byddwn yn cadw gwybodaeth sensitif yn ddiogel, a chyfyngir mynediad ati i’r unigolion sydd angen ei defnyddio’n unig. Byddwn yn dileu gwybodaeth sensitif pan nad oes ei angen bellach.

Trydydd Parti

Hwyrach y byddwn yn rhannu gwybodaeth bersonol gyda sefydliadau eraill, yn enwedig Cyngor Celfyddydau Cymru, fydd yn ei defnyddio i ddadansoddi ein rhaglenni datblygu cynulleidfa, nifer y tocynnau a werthir a chyllid a gynhyrchir gennym er mwyn deall effaith buddsoddiad cyhoeddus a roddir i’r Neuadd Les.  Weithiau mae hyn yn un o amodau ein cyllid. Yn yr amgylchiadau hyn, bydd yr holl ddata’n ddienw, ac ni throsglwyddir unrhyw ddata adnabyddadwy.

Cyflwynir llawer o’r digwyddiadau a gynhelir yn Neuadd Les Ystradgynlais mewn partneriaeth gyda sefydliadau artistig a chwmnïau a hyrwyddwyr eraill.  Byddwn yn eu hysbysu am eich archeb, ond ni fyddwn yn rhannu eich enw a manylion cyswllt gyda nhw, nac yn caniatáu iddynt gysylltu â chi oni roddwyd eich caniatâd adeg archebu tocynnau. Ni fyddwn yn rhannu gwybodaeth sensitif na’ch manylion talu.

Nid ydym yn gwerthu unrhyw fanylion personol i unrhyw sefydliad at unrhyw ddiben.

Cwcis

Ffeiliau testun bach yw Cwcis, sy’n cael eu cadw gan eich porwr (e.e. Internet Explorer, Chrome, Safari, Firefox) ar eich cyfrifiadur, llechen neu ffôn symudol. Yn debyg i’r mwyafrif o wefannau, rydym yn derbyn ac yn cadw manylion penodol pan fyddwch yn defnyddio ein gwefan. Rydym yn defnyddio “cwcis” i’n helpu gwneud ein gwefan – a’r ffordd rydych yn ei defnyddio efallai – yn well. Mae cwcis yn golygu y bydd gwefan yn eich cofio ac yn galluogi trafodion ariannol ar-lein. Maent hefyd yn helpu deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan, lle gallwn wneud gwelliannau a’r ffordd orau i ddweud wrth ein cynulleidfaoedd am ddigwyddiadau sydd o ddiddordeb iddynt efallai.

Gallwch gyfyngu neu atal y cwcis a ddefnyddir gan y wefan trwy osodiadau’ch porwr, ond bydd hyn yn effeithio ar eich profiad fel defnyddiwr. Bydd y pennawd ‘Help’ ar eich porwr yn dweud wrthych sut.

Dadansoddeg Google

Pan fydd rhywun yn ymweld â’n gwefan, defnyddir gwasanaeth trydydd parti, Dadansoddeg Google i gasglu gwybodaeth safonol a manylion patrymau ymddygiad ymwelwyr. Rydym yn gwneud hyn er mwyn dysgu pa dudalennau rydych yn ymweld â nhw, neu os ydych wedi ymweld â’n gwefan o’r blaen. Caiff yr wybodaeth yma ei phrosesu mewn ffordd sy’n golygu nad yw’n adnabod unrhyw un. Nid ydym yn gwneud, ac nid ydym yn caniatáu i Google wneud, unrhyw ymdrech i gadarnhau pwy yw’r unigolion sy’n ymweld â’n gwefan.

Cyfryngau Cymdeithasol

Rydym yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i ledu negeseuon a diweddariadau am ddigwyddiadau a newyddion.  O dro i dro hwyrach y byddwn yn ymateb i sylwadau neu gwestiynau gennych ar gyfryngau cymdeithasol. Hwyrach y byddwch hefyd yn gweld hysbysebion gennym ar gyfryngau cymdeithasol sy’n cael eu teilwra at eich diddordebau chi.

EICH HAWLIAU

Tynnu nôl

Mae gennych hawl i dynnu nôl o unrhyw gyfathrebu gyda ni, neu i ofyn inni ddileu eich manylion o unrhyw un neu bob un o’n basau data, ar unrhyw adeg, trwy ffonio’r Swyddfa Docynnau ar 01639 843163, drwy ysgrifennu atom yn y cyfeiriad cofrestredig (uchod), neu drwy e-bostio boxoffice@thewelfare.co.uk.

Cael mynediad at eich Data

Mae gennych hawl i ofyn am gopi o’r data personol sydd gennym amdanoch.  Os hoffech gael copi o’r data personol sydd gennym amdanoch, dylech e-bostio neu ysgrifennu atom yn y cyfeiriad cofrestredig.

Rydym yn awyddus i sicrhau fod eich data personol yn gywir ac yn gyfredol. Gallwch ofyn inni gywiro neu ddileu data sydd yn anghywir yn eich barn chi, drwy gysylltu â ni yn y cyfeiriad uchod, drwy ffonio’r Swyddfa Docynnau ar 01639 843163 neu drwy e-bostio: boxoffice@thewelfare.co.uk

Nid ydym yn codi ffi os byddwch yn gofyn am gopi o’ch data, nac i gywiro neu ddileu eich data o’n bas data.

NEWIDIADAU I’N POLISI PREIFATRWYDD

Hwyrach y byddwn yn diweddaru’r polisi preifatrwydd hwn o dro i dro, drwy gyhoeddi fersiwn newydd ar ein gwefan. Dylid gwirio’r dudalen hon yn rheolaidd i sicrhau eich bod yn hapus gydag unrhyw newidiadau. Hwyrach y byddwn yn eich hysbysu am unrhyw newidiadau i’n polisi preifatrwydd drwy e-bost.

Diweddarwyd ein Polisi Preifatrwydd ar 1af Mai 2018.