cy

Ein Hystafelloedd

Y Brif Neuadd

Mae ein hawditoriwm amlbwrpas yn darparu ar gyfer ystod o ddigwyddiadau ar raddfa fawr, gan gynnwys partion preifat, gwledd briodas, cyfarfodydd a chynadleddau busnes, seremoniau gwobrwyo a sioeau theatrig.

Mae nifer y seddi fel a ganlyn:

  • 160 Steil Cabaret, gan gynnwys llawr dawnsio
  • 275 Steil Theatr
  • 400 sefyll yn unig

Y Neuadd Fach

Neuadd sylweddol, gyda chyfleusterau cegin bar, gan gynnwys oergell, tegell a microdon. Perffaith ar gyfer cyflwyniadau, cyfarfodydd, partïon a man arddangos.

  • 60 uchafswm capasiti

Ystafell Achlysuron

Ystafell gyda bar (bach) trwyddedig a seddi cyfforddus. Gellir darparu cynlluniau seddi penodol os oes angen. Yn addas ar gyfer partïon neu ddigwyddiadau, cyfarfodydd a gweithdai  anffurfiol. Mae cegin fach gerllaw, gyda rhai cyfleusterau.

  • Capasiti 60
  • Gyda band byw – Capasiti 50

Ystafell Bwyllgor Herman

Ystafell gyfforddus – steil ystafell fwrdd – sy’n berffaith ar gyfer cyfarfodydd neu ddosbarthiadau. Ar y llawr cyntaf, felly yn anffodus, nid yw’n hygyrch i gadeiriau olwyn.

  • Capasiti 18

Ystafelloedd Gwisgo a’r Cyntedd

Mae’r cyntedd yn addas ar gyfer arddangosfeydd bach neu sesiynau taro heibio i dderbyn gwybodaeth. Gallwn ddarparu bwrdd os oes angen.

Mae tair ystafell gwisgo ar gael, sy’n ddelfrydol ar gyfer cyfarfodydd, dosbarthiadau neu gyfweliadau preifat/anffurfiol.

  • Capasiti 1-10