cy

Y Consortiwn Cymraeg

Sefydlwyd Y Consortiwm Cymraeg, cydweithrediad newydd rhwng y cwmni theatr arobryn Theatr na nÓg, Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, Theatr Soar a Neuadd Les Ystradgynlais, gyda’r nod o gyd-gynnal theatr hygyrch o’r safon uchaf yn yr iaith Gymraeg. Yn ogystal, mae’r Consortiwm yn bwriadu cyflwyno rhaglen o gyfranogiadau fydd yn galluogi cymunedau i wella eu sgiliau iaith a hefyd i ymwneud â chelfyddydau a diwylliant ar eu stepen drws. Mae aelodau’r consortiwm wedi dod at ei gilydd er mwyn ailgynnau egni a gwerth y canolfannau perfformio yma a’u cymunedau.

Roedd cynlluniau’r Consortiwm eisoes ar y gweill cyn dyfodiad pandemig Covid-19, ond wrth i’r  canolfannau diwylliannol orfod cau eu drysau, sylweddolodd aelodau’r Consortiwm bod yr angen am y fath ganolfannau hyd yn oed yn fwy difrifol – i sicrhau dyfodol yr iaith Gymraeg yn y cymoedd ac i gynnal eu cymunedau bywiog tu hwnt i Bandemig Covid.

Am fwy o fanylion ynghylch ymuno â’r gweithgareddau fydd yn cyd-fynd a’r cynyrchiadau, e-bostiwch Carys Wehden (carys@theatr-nanog.co.uk).