cy

Sut I Ddod O Hyd I Ni



Y Neuadd Les Ystradgynlais, Heol Aberhonddu, Ystradgynlais, SA9 1JJ

 

Swyddfa Docynnau: 01639 843163 |  Ebost: boxoffice@thewelfare.co.uk

 

O’r De a’r M4

Gadewch yr M4 gan ddefnyddio cyffordd 45 ac ymunwch a’r A4067 gan deithio i gyfeiriad y Gogledd. Cadwch at yr heol hon am dua 15 munud. Ewch yn syth heibio 7 chylchfan a dilynwch arwyddion Ogofau Dan-yr-Ogof ac Aberhonddu. Ar ol y saithfed cylchfan, dilynwch yr arwydd i Ystradgynlais a throwch i’r dde. Wrth gyrraedd y cylchfan mini, trowch i’r chwith  nes cyrraedd y dre. Ar ol mynd heibio croesfan cerddwyr sebra gallwch weld y Neuadd Les ar y llaw chwith ar ol mynd heibio’r siop golchi ceir a’r orsaf fysiau.

O’r Gorllewin a Brynamman

O Brynaman, dilynwch yr A4068 nes cyrraedd y gylchfan ar yr A4067. Trowch i’r chwith ac o fewn hanner milltir, trowch i’r dde a dilynwch yr arwyddion i Ystradgynlais. At y gylchfan mini, trowch i’r chwith a pharhau i mewn i’r dref. Ar ol mynd heibio’r siopiau a’r croesfan cerddwyr sebra gallwch weld y Neuadd Les ar y llaw chwith ar ol mynd heibio’r siop golchi ceir a’r orsaf fysiau.

O’r Gogledd a Ffordd Blaenau’r Cymoedd A465

Gadewch yr A465 wrth gyrraedd Glyn-nedd a dilynwch yr A4109 i gyfeiriad Abercraf. Parhewch i wneud hynny wrth i’r heol newid i’r A4221 ac ar ol i chi gyrraed y Gyffordd T, trowch i’r chwith a dilynwch yr A4067. Ar ol mynd heibio Abercraf, fe ddewch at ddau gylchfan mini, un ar ol y llall. Cadewch i’r ochr chwith a chyn bo hir, fe ddewch i Benrhos. Ar waelod y tyle hir, trowch i’r dde i mewn i faes parcio’r Neuadd Les.

O’r Gogledd a Canolbarth Cymru / Aberhonddu

Ymunwch a’r A40 a dilynwch yr heol hon i gyfeiriad y Gorllewin tan i chi gyrraedd Pontsenni. Trowch i’r chwith. Wrth wneud hynny byddwch yn gadael yr A40 ac yn ymuno a’r A4067 (i gyfeiriad Dan-Yr-Ogof). Cadwch at yr heol hon ac ewch heibio Abercraf. Ar ol mynd heibio Abercraf, fe ddewch at ddau gylchfan mini, un ar ol y llall. Cadewch i’r ochr chwith a chyn bo hir, fe ddewch i Benrhos. Ar waelod y tyle hir, trowch i’r dde i mewn i faes parcio’r Neuadd Les.