Gwyliwch y ffilm mewn amgylchedd ymlaciol i oedolion, gyda’r bar ar agor o flaen llaw, gan ganitau i chi fwynhau diod o’ch dewis chi. Rhaid i bobl ifanc o dan 15 mlwydd oed fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol. Nid yw consesiynau ar gael ar yr achlysuron hyn.
Delfrydol i unrhyw un fyddai’n elwa o fân newidiadau i amgylchedd yr awditoriwm. Yn ystod y ffilm, bydd yn oleuach, a chaiff y sain ei ddistewi ychydig, ac ni ddangosir hysbysebion a rhagluniau. Mae croeso i gwsmeriaid siarad a symud o gwmpas y sinema.
Bydd staff ar gael os oes angen cymorth ychwanegol. Prisiau tocynnau arferol yn berthnasol.
Gwneir mân addasiadau i amgylchedd yr awditoriwm, er mwyn cynnig profiad pleserus, hamddenol a mwy hygyrch i bobl sy’n byw gyda dementia.
Yn dilyn y ffilm bydd cyfle i gymdeithasu gan fwynhau lluniaeth. Pris tocynnau: £4.30, sy’n cynnwys diod boeth a darn o gacen.
Gwyliwch allan am deitlau ffilm arbennig fydd yn cael eu dangos mewn 3D!