Mae Sefydliad Celf Josef Herman Cymru, a leolir yn y Neuadd Les, yn ymroddedig i hyrwyddo gwerthfawrogiad o fywyd a gwaith yr artist Josef Herman.
Arlunydd a aned yng Ngwlad Pwyl oedd Josef Herman (1911 – 2000) sy’n cael ei gofio am ddarlunio’r gymuned lofaol yn Ystradgynlais. Ymwelodd ag Ystradgynlais ym 1944 am wyliau ac arhosodd yno am 11 mlynedd.
Yn ei enw mae’r Sefydliad yn meithrin cyfranogiad ehangach yn y celfyddydau. Gwneir hyn trwy wobr flynyddol i ysgolion, arddangosfeydd, digwyddiadau, darlithoedd a chefnogaeth i wobr flynyddol yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru.