cy

Polisi Archebu

ORIAU AGOR Y SWYDDFA DOCYNNAU

Mae’r Swyddfa Docynnau ar agor 9am-3pm, Dydd Llun – Gwener.
Hefyd byddwn ar agor am awr cyn cychwyn digwyddiad neu ffilm.

ARCHEBU / CADW TOCYNNAU

Gellir prynu tocynnau ar gyfer yr holl ddigwyddiadau yn y Swyddfa Docynnau’n bersonol neu drwy ffonio (01639 843163). Hefyd gellir archebu tocynnau ar-lein ar gyfer ein holl ddigwyddiadau, gan gynnwys ffilmiau.

Gellir cadw tocynnau ar gyfer hyd at 7 niwrnod. Os na thelir am docynnau o fewn 7 niwrnod, byddant ar gael i’w gwerthu eto.

Noder: nid yw’n bosib cadw tocynnau yn ystod yr wythnos cyn digwyddiad.

DULLIAU TALU

Rydym yn derbyn taliadau arian parod, neu gardiau credyd/debyd.

Caiff taliadau ar-lein eu prosesu trwy Realex. Mae Realex Payments yn gwmni prosesu taliadau ar-lein dibynadwy iawn, ac yn achrededig trwy’r ‘Account Information Security’ gan  VISA ac yn cydymffurfio â ‘Payment Card Industry Data Security Standard  Version 3.22’, sef y lefel gydymffurfio uchaf bosib.

Nid ydym yn cadw’ch manylion banc ar ein system, os byddwch yn talu’n bersonol neu dros y ffôn neu ar-lein.

Mae gennym gontract gyda Ticketsolve, ein system ar-lein ar gyfer y Swyddfa Docynnau, a Realex i sicrhau y cedwir eich data’n ddiogel bob amser.

TELERAU AC AMODAU

Dylai cleientiaid fod yn bresennol yn y digwyddiad i gofrestru neu i gasglu tocynnau o leiaf 20 munud cyn cychwyn digwyddiad.

Ar ôl eu prynu, nid yw’n bosib cyfnewid na chynnig ad-daliad ar gyfer tocynnau, oni chaiff y digwyddiad ei ganslo.  Cynigir bob tocyn ar amod argaeledd adeg archebu tocynnau.

Mae rheolwyr digwyddiadau’n cadw’r hawl i ganiatáu mynediad, hyd yn oed os prynwyd tocynnau.

Bydd gan staff sy’n rheoli digwyddiad hawl i ganiatáu mynediad i bobl sy’n cyrraedd yn hwyr ac ar adeg briodol.

Nid yw rheolwyr y digwyddiad yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am eiddo sy’n cael ei golli neu  ei ddwyn yn yr adeilad.

Oni ddangosir fel arall, mae’r holl raffeg, logos a nodau masnachol yn nodau masnach cofrestredig. Ni chaniateir defnyddio, copïo, atgynhyrchu, ail-gyhoeddi, lawrlwytho, postio, anfon, dosbarthu neu addasu unrhyw Nodau Masnach mewn unrhyw ffordd, gan gynnwys mewn deunyddiau hysbysebu neu gyhoeddusrwydd sy’n ymwneud â neu o ran dosbarthu deunyddiau, heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw.

Mae rheolwyr digwyddiadau’n cadw’r hawl i newid y Telerau ac Amodau hyn ar unrhyw adeg, heb roi rhybudd ymlaen llaw.