cy

Platfform: Theatr Iolo

 

Rhaglen breswyl peilot, tair blynedd o hyd yw Platfform; ei nod yw cefnogi artistiaid newydd ar draws y celfyddydau perfformio sydd â diddordeb mewn creu theatr ar gyfer babanod, plant, pobl ifanc a theuluoedd.

Trwy Platfform, mae Theatr Iolo yn paru artistiaid newydd a sefydliadau sy’n gweithio ar draws y dulliau celf hyn gyda lleoliadau a sefydliadau partner ar draws Cymru er mwyn creu theatr sy’n cyfathrebu gyda phobl ifanc a theuluoedd, ac sy’n gyffrous, yn gydweithredol ac yn wreiddiol.

Trwy’r prosiect hwn, nod Theatr Iolo yw ysbrydoli pobl ifanc, cefnogi a meithrin artistiaid sydd â diddordeb mewn creu theatr ddiddorol uchel ei hansawdd ar gyfer cynulleidfaoedd o bobl ifanc a theuluoedd, a magu cysylltiad rhwng cynulleidfaoedd  â’u lleoliadau celfyddydau lleol.

Mae’r Neuadd Les yn Ystradgynlais wedi bod yn lleoliad partner am dair blynedd prosiect  Platfform, ac wedi gweithio gyda Tracy Harris a Paul Jenkins, Theatr Tin Shed a The Jones Collective.

Ceir mwy o wybodaeth yma: