Rhowch wybod i staff y swyddfa am unrhyw anghenion arbennig sydd gennych chi a byddwn ni’n falch i’ch helpu.
Os hoffech weld yr adeilad cyn dod i ddigwyddiad, mae croeso i chi gysylltu â’r Swyddfa Docynnau i drefnu taith dywys.
Ar wahân i Ystafell Bwyllgor Herman, mae’r holl gyfleusterau ar y llawr gwaelod ac felly’n hygyrch i gwsmeriaid anabl. Mae hyn yn cynnwys toiled i’r anabl, coridorau llydan a drysau sy’n addas ar gyfer cadair olwyn.
Mae dolen sain ac offer i roi disgrifiad sain ar gael ar gyfer dangosiadau yn y sinema. Gofynnwch yn y Swyddfa Docynnau os gwelwch yn dda.
Mae parcio cynfyngedig ar gael am ddim i gwsmeriaid y Neuadd Les yn ein maes parcio. Mae gennym 4 lle ar gael ar gyfer deilliaid Bathodyn Glas
Mae croeso i gwn cymorth yn y Neuadd Les, a gallant eistedd gyda chi yn yr awditoriwm.
Mae’r Neuadd Les yn rhan o gynllun mynediad cenedlaethol, HYNT, sy’n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celfyddydol yng Nghymru i sicrhau fod cynnig cyson ar gael i ymwelwyr sydd a nam neu ofynion mynediad penodol, a’u Gofalwyr neu Gynorthwywyr Personal.
Mae hawl gan ddeilliad cardiau HYNT i gael tocyn ‘mynediad am ddim’ fel y gall eu cynorthwywyr personal neu ofalwyr fynd gyda hwy i unrhyw un o’n digwyddiadau.
Am ragor o wybodaeth, edrychwch yma.