Mae Ymddiriedolwyr Neuadd Les Ystradgynlais yn chwilio am unigolyn profiadol ac ymroddedig i gyflawni ein Rhaglen Gelfyddydau a’i helpu i ffynnu.
Teitl y Swydd: Swyddog Theatr a Chelfyddydau Cymunedol (amser llawn)
Dyddiad dechrau: Awst 2024
Dyddiad gorffen: Rhagfyr 2024
Mae contract tymor hwy yn bosibl o’r adeg honno ymlaen. Byddwch yn allweddol wrth weithio gyda ni i sicrhau hirhoedledd y penodiad.
Cyflog: £20.12 yr awr
Dyddiad cau ar gyfer ymgeisio: 1pm ar 27 Mehefin 2024
Anfonwch Lythyr Cais a CV at admin@thewelfare.co.uk
Disgrifiwch sut mae eich gwybodaeth, eich profiad a’ch galluoedd yn eich gwneud yn ymgeisydd cryf ar gyfer y swydd, yn eich barn chi. Cyfeiriwch at fanyleb yr unigolyn sy’n cyd-fynd â’r swydd-ddisgrifiad. Awgrymwn eich bod yn ysgrifennu 900 o eiriau ar y mwyaf.
Lawrlwythwch y swydd-ddisgrifiad yma i gael manylion llawn a gwybodaeth am sut i ymgeisio.
Mae’r Neuadd Les yn adnabyddus am gynnal rhaglen gyfoethog ac amrywiol o gelfyddydau perfformio proffesiynol a sinema ar gyfer y gymuned. Rydym wedi sefydlu ein hunain fel rhan hanfodol o fywyd diwylliannol a chymdeithasol yr ardal ac yn cynnig rhaglen reolaidd o ddigwyddiadau, gan gynnwys gweithio mewn partneriaeth â’r gymuned, adloniant o ansawdd da, cerddoriaeth ryngwladol, rhaglennu celfyddydau cymunedol, sinema a darllediadau byw.
Rydym yn datblygu ein tîm i’n helpu i gyflawni ein gweledigaeth a’n blaenoriaethau strategol wrth i ni ymateb i’r twf, y cyfleoedd a’r heriau presennol.
Disgrifiwch sut mae eich gwybodaeth, eich profiad a’ch galluoedd yn eich gwneud yn ymgeisydd cryf ar gyfer y swydd, yn eich barn chi. Cyfeiriwch at fanyleb yr unigolyn sy’n cyd-fynd â’r swydd-ddisgrifiad. Awgrymwn eich bod yn ysgrifennu 900 o eiriau ar y mwyaf.
Bydd y swydd hon yn cael ei hariannu gan Gyllid Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Powys tan fis Rhagfyr 2024. Byddwch yn allweddol wrth weithio gyda ni i sicrhau hirhoedledd y penodiad o’r adeg honno ymlaen.
Dim ond ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer y cysylltir â nhw ar gyfer cyfweliad. Os hoffech chi drefnu trafodaeth anffurfiol gyda’r Cyfarwyddwr ynglŷn â’r rôl, cysylltwch gyda:
Wynne Roberts
Cyfarwyddwr Gweithredol / Executive Director
Neuadd Les Ystradgynlais / The Welfare Ystradgynlais
Heol Aberhonddu / Brecon Road
Ystradgynlais
Abertawe / Swansea. SA9 1JJ
Ffôn / Phone: 01639 843163
admin@thewelfare.co.uk
yneuaddlesystradgynlais.cymru
www.thewelfare.co.uk
Bydd pob cais yn cael ei drin yn gwbl gyfrinachol. Mae ymrwymiad cydraddoldeb strategol y Neuadd Les yn mynnu bod pob ymgeisydd yn llenwi ac yn dychwelyd y Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal gyda’u cais. Mae’r ffurflen hon yn ddienw ac ni fydd yn cael ei defnyddio yn rhan o’r broses llunio rhestr fer a chyfweld. Dim ond data am ymgeiswyr ar ffurf gyfanredol ddienw a fydd yn cael ei drosglwyddo mewn adroddiadau i gyllidwyr.
Hygyrchedd
Os bydd angen i chi gyflwyno’ch gwybodaeth mewn fformat gwahanol i allu ymgeisio, neu os bydd angen i ni wneud unrhyw addasiadau rhesymol eraill i’ch cynorthwyo i gymryd rhan yn ein proses recriwtio, cysylltwch ag admin@thewelfare.co.uk.
Mae Neuadd Les Ystradgynlais wedi ymrwymo i gyfle cyfartal a chefnogi amrywiaeth a chynhwysiant ar draws pob agwedd ar ei gwaith. Mae ein staff yn cyfrannu ystod o safbwyntiau at ein sefydliad a chroesawn geisiadau gan unigolion sy’n cael eu tangynrychioli yn y sector celfyddydau gweledol, gan gynnwys y rhai hynny o dreftadaeth Ddu, Asiaidd neu ethnig leiafrifol, y rhai hynny sydd wedi wynebu rhwystrau economaidd-gymdeithasol, y rhai hynny sy’n ystyried eu hunain yn LHDTC+, a’r rhai hynny ag anableddau. Bydd pob cais ar gyfer y swydd hon yn cael ei drin yn gydradd ac yn gyfrinachol. Bydd recriwtio i’r swydd hon ar sail teilyngdod.