Straeon ffoaduriaid y gorffennol a’r presennol trwy ffilmiau bywluniedig hardd.
Roedd y ffilm yn gyfle i ddathlu prosiect addysg ffilm gyda’r teitl ‘Cynefin – Ein Croeso’ a gyllidwyd gan Ffilm Cymru Wales, ac a gefnogwyd gan Michael Sheen a Sefydliad Celf Josef Herman.
Mae tîm celf cymunedol Neuadd Les Ystradgynlais wedi gweithio gydag Ysgol Maesydderwen, Ysgol Dyffryn Y Glowyr a theuluoedd o Syria sydd wedi dod i fyw i Ystradgynlais er mwyn adrodd hanesion ffoaduriaid y gorffennol a’r presennol. Bu’r Cwmni Winding Snake Productions, sydd wedi ennill gwobrwyon ym maes animeiddio’n gweithio gyda’r gymuned i greu dwy ffilm fywluniedig, ac arddangoswyd y rhain yn y digwyddiad.
Mae’r ffilmiau’n adrodd hanesion pobl sy’n ffoi rhag rhyfel a’r croeso a roddwyd iddynt yn Ystradgynlais, a chyfraniad y dref o ran cynnig lloches iddynt.
Ffilm fer yw Cynefin gan yr ysgolion ar destun yr artist o Wlad Pwyl, Josef Herman, a leisiwyd gan Michael Sheen, un o sêr Hollywood. Syniad y disgyblion dawnus oedd hwn, a nhw oedd yn gyfrifol am y sgript, y cymeriadau a’r cefnlenni, rhoddwyd cynnig ar animeiddio atal-symudiad yn ogystal â chyfansoddi sgôr y ffilm ar y cyd â Tic Ashfield, Cyfansoddwr sydd wedi ennill BAFTA.
Crëwyd ‘Uncle Ahmad’s Canaries’ yn y Neuadd Les Ystradgynlais gyda theuluoedd o Syria oedd yn byw yn yr ardal, ac fe’i seilir ar hanes symud i Gymru ac ymgartrefu yn y Cymoedd. Roedd y teuluoedd hefyd yn gysylltiedig â chreu’r animeiddio, sy’n stori gobaith a goroesi hynod ingol.
Caiff y ddwy ffilm eu dangos mewn gwyliau ffilm yn ddiweddarach eleni, a gellir gwylio fideo byr yma.