cy

CYMORTH TECHNEGOL

SUT YDW I'N CAEL MYNEDIAD I SIOE DDIGIDOL?

Cliciwch yma i wrando ar y dudalen hon trwy clip disgrifiwyd yn Saesneg, ac yma yn Gymraeg.

Pan fyddwch yn prynu tocyn anfonir neges gadarnhau trwy e-bost atoch gyda dolen i’r sioe ddigidol a chôd mynediad unigryw.

Bydd y sioe ar gael i’w gwylio ar y dyddiad a’r amser a nodir yn yr e-bost.

Sylwer: peidiwch â rhannu eich dolen tocyn, bydd defnyddio’r un ddolen fwy nag unwaith yn golygu y bydd defnyddwyr yn cael eu cloi allan o’r sesiwn ffrydio byw yn barhaol; gellir defnyddio eich dolen yn eich cartref yn unig.

Os ydych yn cael unrhyw broblemau o ran cyrchu’r ddolen (neu unrhyw elfen arall) anfonwch neges e-bost at boxoffice@thewelfare.co.uk, neu ar ein tudalen Facebook, a byddwn yn eich helpu i ddatrys y broblem.

Bydd yr ‘ystafell wylio’ yn agor 15 munud cyn i’r sioe ddechrau.

SUT I WYLIO FOW!

FOW Rooms User Guide - Welsh

Gwyliwch Fow ar y sgrin fwyaf sydd gennych am y profiad gorau, yn enwedig os oes angen dehongliad BSL arnoch. Sgroliwch i lawr i ddarganfod sut i wylio’r sioe ar eich teledu cyn setlo i lawr i wylio’r perfformiad – mae’r wybodaeth hon ar gael yn Gymraeg, Saesneg a thrwy fideo BSL yma.

Cliciwch yma i wrando ar y dudalen hon trwy clip disgrifiwyd yn Saesneg, ac yma yn Gymraeg.

Sesiynau Holi ac Ateb: Bydd y sesiynau holi ac ateb ar Ebrill 29ain a Mai 4ydd yn cael eu cynnal ar Zoom am 9pm. Os hoffech fynychu a heb Zoom yn barod, lawrlwythwch yr ap o’r siop apiau/chwarae google neu drwy’r ddolen hon ar gyfer cyfrifiadur neu mac.

SUT I WYLIO

Gallwch wylio’r ffilm ar eich ffôn, llechen, neu eich cyfrifiadur – a chysylltu â’ch teledu yn dibynnu ar eich trefniadau presennol gartref.

CYSYLLTIAD UNIONGYRCHOL: CYFRIFIADUR I’R TELEDU – Un ffordd o wylio pethau ar eich teledu yw trwy gysylltu eich cyfrifiadur (neu ddyfeisiau eraill) â’ch teledu trwy ddefnyddio cebl HDMI.

GWYLIO AR DELEDU CLYFAR – Os oes gennych deledu clyfar a’i fod wedi’i gysylltu â’r rhyngrwyd:Agorwch borwr (er enghraifft Puffin TV Browser, Samsung TV Browser, neu unrhyw borwr sydd ar gael ar eich teledu clyfar)Mewngofnodwch i’ch cyfrif e-bost a ddefnyddiwyd i archebu eich tocynDewch o hyd i’r e-bost cadarnhau sy’n cynnwys y ddolen i’r ffrwd, a chliciwch ar y ddolen hon.

APPLE AIRPLAY – Gan ddefnyddio eich cyfrifiadur Apple neu iPad, ewch i’r eicon AirPlay.Cysylltwch â’ch Apple TV trwy nodi’r côd. Dylai sgrin eich dyfais ymddangos fel drych ar eich teledu.Os nad yw AirPlay yn gweithio ar eich cyfrifiadur, ceisiwch gysylltu o iPhone/iPad. Dyma ganllaw cam wrth gam ar sut i ddefnyddio AirPlay.

CHROMECAST – Ffrydiwch yn uniongyrchol o lechen ym mhorwr Chrome i deledu wedi’i gysylltu â dyfais Chromecast o’ch Mac neu eich cyfrifiadur. Sylwer: Ar hyn o bryd, nid yw Chromecast ar gael i’w ffrydio o ddyfeisiau Apple iOS, fel yr iPhone a’r iPad. Ar ôl sefydlu eich Chromecast, gallwch ffrydio’n uniongyrchol o’ch cyfrifiadur. Dyma ganllaw ar sut i ddefnyddio Chromecast o’ch cyfrifiadur.

Ar y dudalen fideo, agorwch y ddewislen Chrome yng nghornel dde uchaf y ffenestr (neu’r ddewislen ‘View’) a dewiswch ‘Cast’. Sicrhewch mai’r dudalen rydych am ei harddangos yw’r un sy’n cael ei dewis i’w chastio. Efallai y bydd yr eicon Cast hefyd yn cael ei arddangos yng nghornel dde waelod eich chwaraewr fideo.Dewiswch eich ffynhonnell Chromecast (ystyriwch ddewis tudalen Chrome) a’ch cyrchfan Chromecast. Yna bydd Chromecast yn cael ei gysylltu a bydd fideo yn chwarae ar eich teledu.

I ddatgysylltu o Chromecast, cliciwch ar yr eicon ‘Stop’ glas wrth ymyl eich cyrchfan castio. Os oes unrhyw broblemau o ran ffrydio trwy Chromecast, ceisiwch newid y fideo i ansawdd is.

ISDEITLAU

Wrth wylio’r ffrwd, dylai isdeitlau chwarae’n awtomatig. Bydd yr isdeitlau hyn yn ieithoedd brodorol y cynhyrchiad.  

Oni bai eich bod yn rhywun sy’n deall BSL, Cymraeg a Saesneg, bydd rhannau o’r sioe a fydd yn ‘FOW‘ i chi. Dyma sut rydym am i chi brofi’r perfformiad ac nid yw’n gamgymeriad technegol.  Fodd bynnag, os hoffech brofi’r perfformiad gyda’r sicrwydd o gael isdeitlau Saesneg drwy gydol y sioe bydd gennym hefyd yr opsiwn o ddewis isdeitlau Saesneg yn unig.  

 I newid iaith yr isdeitlau, cliciwch ar y symbol ‘cc’ ar y chwaraeydd.  

 Dewiswch English (United Kingdom) ar gyfer isdeitlau Saesneg yn unig 

 Dewiswch Cymraeg i fynd yn ôl i’r isdeitlau brodorol (Cymraeg, Saesneg, a BSL) 

Clo

GOFYNION SYSTEM A RHYNGRWYD

I gael y perfformiad gorau, rydym yn argymell eich bod yn gwylio gan ddefnyddio’r system weithredu a’r porwr diweddaraf. Bydd angen cysylltiad cryf a sefydlog â’r rhyngrwyd arnoch ar gyfer unrhyw ddyfais.

PROBLEMAU O RAN FFRYDIO'R FFILM

Cadarnhewch nad ydych ar VPN (Rhwydwaith Rhithwir Preifat).

Os ydych yn defnyddio AirPlay, ceisiwch gysylltu o iPhone neu iPad yn hytrach na gliniadur.

Os ydych yn defnyddio Chromecast, gwnewch yn siŵr bod eich dyfais a Chromecast ar yr un rhwydwaith Wi-fi.

Os ydych wedi cysylltu â’ch teledu trwy gysylltiad HDMI, ceisiwch ddatgysylltu ac ailgysylltu’r cebl HDMI.

Ailddechreuwch eich cyfrifiadur neu ddyfais, a’r teledu.

Ailddechreuwch eich modem rhyngrwyd a/neu lwybrydd di-wifr.

Ceisiwch ail-lwytho’r dudalen we.