cy

Arddangosfeydd

Cysgwr Ysgafn: Arddangosfa gan Sarah Lees

 

Yn The Death of the Moth and Other Essays mae Virginia Woolf yn sylweddoli bod E. M Forster ‘fel cysgwr ysgafn sydd bob amser yn cael ei ddeffro gan rywbeth yn yr ystafell’. Drwy hyn mae hi’n golygu fod ei sylw’n cael ei dynnu yn greadigol ac o ganlyniad nid oedd ei waith bob amser yn gyson o ran themâu – er bod Woolf yn teimlo mai gwendid yn hytrach na diffyg difrifol oedd hwn. Mae’r gwaith yn y sioe hon, a gynhyrchwyd dros y flwyddyn ddiwethaf, hefyd yn gynnyrch cwsg ysgafn; a boenir gan ffactorau fel dim digon o ryddid, gormodedd, gwrthdyniad dibwynt galar, pwysau terfynau amser, yr angen i wneud bywoliaeth. Pan fydd y balans yn gywir, ni fydd gwrthdyniadau bellach yn bwysig a bydd y gwaith aeddfed yn ymddangos, ond yn y cyfamser mae gen i’r pleser o beintio’r hyn sy’n cyfateb i synfyfyrion.

Arddangosfa yn Agor: Dydd Sadwrn Chwefror 9, 4yp
Bydd yr arddangosfa yn rhedeg tan fis Mawrth 14eg