Willow-Hill-web

Willow Hill

Wedi’u henwi’n ddiweddar ar restr “Bands to Watch” y cylchgrawn Rolling Stone, mae Willow Hill wedi sefydlu eu hunain erbyn hyn ymhlith perfformwyr “newydd” mwyaf nodedig Nashville. Mae’r ddeuawd gŵr a gwraig bwerus Alexandra a CT Fields yn cyflwyno tro ffres, modern ar ganu gwlad glasurol.

Roedd eu steil unigryw yn llwyddiant ysgubol yma’r llynedd – dim ond un o tua 200 o ddyddiadau ar eu taith ar draws yr Unol Daleithiau ac yn rhyngwladol.

Mae eu halbwm eofn diweddara “Better Together”, yn llawn o gyfansoddi diymddiheuriad, parod ar gyfer y radio sydd serch hynny yn driw i’r egni adfywiol y mae Willow Hill yn adnabyddus amdano.

Talwch Beth Allwch Chi: £12, £15, £18*, £21

Mae tocynnau ar gyfer llawer o’n sioeau a’n darllediadau byw ar werth ar sail talu beth bynnag allwch chi, sy’n golygu y cewch chi ddewis y pris gorau i’ch poced. Noddir tocynnau lefel isaf, tra mae’r pris uchaf yn rhoi ychydig bach ychwanegol i’r Neuadd Les, sy’n helpu ariannu ein gweithgareddau cymunedol.

Ar gyfer pob digwyddiad, fel canllaw, mae’r pris safonol a awgrymir wedi’i amlygu mewn print trwm gyda *.

Dydd Iau 20 Awst 2026
20:00