Welsh Chamber Orchestra

Welsh Chamber Orchestra

Mae cerddorfa siambr broffesiynol hynaf Cymru, Y Gerddorfa Siambr Gymreig, wrth ei bodd yn dychwelyd atom ni gyda symffoni olaf ddramatig rhif 41 Mozart, ‘Jupiter’, Symffoni ‘Oxford’ Haydn a pherfformiad cyntaf byd-eang o gomisiwn newydd Sarah Frances Jenkins, ‘Welsh Landscapes’.

Dan arweiniad sylfaenydd a Chyfarwyddwr Artistig y gerddorfa, Anthony Hose, mae’r cyngerdd hwn yn rhan o Daith y gerddorfa i ddathlu ei phenblwydd yn 40 oed.

Cyn y perfformiad bydd cyflwyniad i’r gerddorfa a’r repertoire am 7y.p.
Er bod y cyflwyniad yma wedi’i drefnu er mwyn cynyddu hygyrchedd i aelodau’r gynulleidfa sy’n ddall neu rhannol ddall, mae croeso i bawb.

Talwch Beth Allwch Chi: £10, £15, £20*, £25 (*Recommended Ticket Price)

Mae tocynnau ar gyfer llawer o’n sioeau a’n darllediadau byw ar werth ar sail talu beth bynnag allwch chi, sy’n golygu y cewch chi ddewis y pris gorau i’ch poced. Noddir tocynnau lefel isaf, tra mae’r pris uchaf yn rhoi ychydig bach ychwanegol i’r Neuadd Les, sy’n helpu ariannu ein gweithgareddau cymunedol.

Ar gyfer pob digwyddiad, fel canllaw, mae’r pris safonol a awgrymir wedi’i amlygu mewn print trwm gyda *.

Dydd Iau 18 Meh 2026
19:30