cy

Ustad Noor Bakhsh

Mae Ustad Noor Bakhsh, 79 oed, o ardal Pasni yn Balochistan, yn gerddor enwog sy’n adnabyddus am ei sgiliau rhyfeddol ar y Balochi Benju.

Yn wreiddiol, tegan plant Japaneaidd o’r enw taishōkoto oedd hwn, ond mae’r Benju wedi cael ei drawsnewid gan gerddorion Balochi i fod yn rhan bwysig o’u traddodiad. Mae Noor Bakhsh yn chwarae fersiwn drydan, gan ddefnyddio hen bic-yp ac amp Phillips bach a brynodd ddau ddegawd yn ôl.