Twin-Town-web

Twin Town (18): With Director Q&A

Bryn Cartwright (William Thomas) contractwr toi cyfoethog, cadeirydd clwb rygbi ac un o’r hoelion wyth lleol sy’n ben ar bethau nes i Fatty Lewis (Huw Ceredig) tasgmon lleol syrthio oddi ar ysgol tra’n gwneud jobyn i Cartwright. Mae’r efeilliaid jynci ac wyrion Fatty, Julian (Llyr Ifans) a Jeremy (Rhys Ifans), nad ydyn nhw’n efeilliaid mewn gwirionedd – yn ceisio cael iawndal gan Cartwright, sy’n gwrthod talu. 

Dan ddylanwad cyffuriau, mae Julian a Jeremy yn achosi anrhefn nid yn unig i Cartwright a’i deulu ond i bawb maen nhw’n dod ar eu traws, tra bod Terry (Dougray Scott) a Greyo (Dorian Thomas), dau blismon lleol yn defnyddio eu dulliau cadw heddwch amheus nhw eu hunain wrth i ddigwyddiadau droelli allan o bob rheolaeth.
Bydd sesiwn holi ac ateb fyw unigryw yn dilyn y dangosiad gyda chyfarwyddwr y ffilm, Kevin Allen.

Hud y Ffilm: 100 munud, ac yna sesiwn H&A.
Dydd Llun 19 Hyd 2026
19:45