Triongl: Is There Anybody There?
Mae seicig, ysbryd sy’n hoff o ffitrwydd, a heddwas yn ymchwilio marwolaeth, bywyd, a phopeth arall rhwng y ddau yn y gomedi ddwyieithog yma gan TRIONGL, cwmni theatr o Gymru.
Wedi’i ysbrydoli gan nosweithiau yn gwylio sioeau cyfryngiaeth seicig a straeon personol o alar, mae’r sioe yn cwestiynu sut ‘dyn ni’n adweithio gyda marwolaeth, beth sydd “ar yr ochr arall” a sut ‘dyn ni, ar dir y byw, yn dod i delerau â’r dirgelion mawr yma?
Wedi’i gyflwyno’n ddwyieithog ond yn hygyrch i ddysgwyr Cymraeg a siaradwyr di-Gymraeg.
Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru. Mewn partneriaeth â Theatr Soar, Merthyr.
Oed: 14+
Cyfeiriadau at farwolaeth a galar, iaith gref.
Hyd y Sioe: 70 munud (dim egwyl)
TOCYNNAU:
Talwch Beth Allwch Chi: £10, £12, £14, £16*, £18 £20 (*Pris Safonol a Awgrymir)
Mae tocynnau ar gyfer llawer o’n sioeau a’n darllediadau byw ar werth ar sail talu beth bynnag allwch chi, sy’n golygu y cewch chi ddewis y pris gorau i’ch poced. Noddir tocynnau lefel isaf, tra mae’r pris uchaf yn rhoi ychydig bach ychwanegol i’r Neuadd Les, sy’n helpu ariannu ein gweithgareddau cymunedol.
Ar gyfer pob digwyddiad, fel canllaw, mae’r pris safonol a awgrymir wedi’i amlygu mewn print trwm.