cy

Theatr Iolo: The Welsh Dragon

Pan mae waliau castell yng Nghymru yn dechrau chwalu oherwydd brwydr rhwng dwy ddraig sy’n byw yn y ddaeargell, dim ond rhywun o dras Gymreig pur sy’n gallu rhoi stop ar bethau. Ond sut ydyn ni’n gwybod yn union os yw rhywun yn Gymry neu beidio?

Gyda cherddoriaeth, rap a thro hanesyddol, mae’r ddrama feiddgar newydd hon i blant yn cymryd golwg ar linach Ddu Prydain ac yn gofyn i ni gwestiynu’r storïau sydd wedi’u trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth.

Dyma ddrama ddoniol a chyflym sy’n procio’r meddwl. Mae The Welsh Dragon yn plethu’r chwedl adnabyddus gyda gwirioneddau hanesyddol cudd, er mwyn archwilio hunaniaeth, ethnigrwydd, a tharddiad bywyd dynol ar Ynysoedd Prydain.

Canllaw Oed: 7-13 mlwydd oed

Disgyblion: £10
Athrawon: Am Ddim

Tîm Creadigol
Ysgrifennwr: Kyle Lima
Cyfansoddwr: Eadyth Crawford
Cynllunydd: Kyle Legall

Dydd Llun 14 Hyd 2024
10:00
Dydd Llun 14 Hyd 2024
13:15