The Road of Excess (15), plus Q&A
“The Road of Excess” ynghyd â sesiwn holi ac ateb.
Yn dilyn ymgais Matthew Pritchard, cyn-seren Dirty Sanchez, i rwyfo ar draws yr Iwerydd, mae The Road of Excess yn ffilm sy’n ymdrin â gwrywdod tocsig, iechyd meddwl, dibyniaeth, enwogrwydd a’r hyn sy’n digwydd pan fydd wedi diflannu.
Dangosiad ac wedyn sesiwn holi ac ateb gyda Matthew a’r DJ, cyflwynydd a phodledwr, Matt Stocks.