ROH (1) (1)

Rabbit Miners and the Number One Dresser In The Pit: The Mining Art of Sakubei Yamamoto

Yn saith mlwydd oed, symudodd Sakubei Yamamoto (1892-1984) gyda’i deulu i byllau glo rhanbarth Chikuho yn Kyushu. Dechreuodd fel gof prentis mewn pwll glo pan oedd yn ddeuddeg oed. Gweithiodd fel gof pwll glo a glöwr tan ei fod yn 63 oed. Wedi hynny, daeth yn swyddog diogelwch yn y pyllau glo, a dyna pryd y dechreuodd baentio ei atgofion o’r diwydiant. Prin oedd yr addysg ffurfiol a gafodd, ond ers ei ugeiniau cynnar bu’n cadw llyfrau nodiadau a dyddiaduron, a gafodd ddylanwad ar ei baentio’n ddiweddarach.

“Mae’r yama [enw’r glowyr am y pyllau glo] yn diflannu, gan adael 524 o fynyddoedd rwbel yn rhanbarth Chikuho; a dydw innau ddim mor ifanc ag y bues i. Rydw i wedi penderfynu gadael rhywfaint o’r gwaith a’r teimladau o gyfnod yr yama ar gyfer fy wyrion ac やま 炭坑 wyresau. Byddai’n gyflymach ysgrifennu rhywbeth ar bapur, ond ar ôl rhai blynyddoedd, pwy a ŵyr, efallai y byddai’r nodiadau’n cael eu taflu i’r bin pan fydd rhywun yn glanhau’r tŷ. Ond gyda lluniau, mae modd cymryd cymaint i mewn gydag un cipolwg – rydw i wedi penderfynu paentio.”

Yn 2011, daeth paentiadau a darluniau Sakubei Yamamoto o’r pyllau glo yn rhan o raglen Cof y Byd UNESCO. Mae’r arddangosfa hon yn canolbwyntio ar ddetholiad bach o’i gasgliad o 2,000 o ddarluniau a phaentiadau. Mae’r rhain yn Japaneaidd iawn o ran arddull, ond byddai unrhyw löwr o Gymru’n adnabod y math o waith a’r cymeriadau sydd i’w gweld.

***************************************************************

山本作兵衛(明治25年生-昭和59年没)は、7 歳の頃に家族と九州の筑豊にある上三緒炭坑 に移住。12歳で炭坑のツルハシ鍛冶に弟子入 りし、63歳まで坑内夫や鍛冶工員として坑夫 生活を続けた。その後炭坑の宿直警備員をし ていた頃から、記憶を辿って炭坑の様子を描 くようになった。 学校へはあまり通えなかったが、20代初めか ら日記や手帳に炭坑の記録を残し、それが後 の制作活動に役立ったという。 「ヤマは消え行く、筑豊524のボタ山は残る。 やがて私も余白は少ない。孫たちにヤマの生 活やヤマの作業や人情を書き残しておこうと 思い立った。文章で書くのが手っ取り早い が、年数がたつと読みもせず掃除のときに捨 てられるかもしれず、絵であればちょっと見 ただけでわかるので、絵に描いておくことに した。」 山本作兵衛の炭坑記録画や日記類は、2011年 (平成23年)に日本初のユネスコ世界記録遺 産に登録された。 本展は、1千点を超える山本作兵衛の作品の ごく一部を紹介するものである。もちろん日 本の炭坑記録画であるが、ウェールズの炭坑 夫には馴染みのある作業や役割であろう。 カッコ内の文章は、記録画の余白に書き込ま れた作兵衛自身による解説文からの抜粋であ る

Dydd Llun 13 Ebr 2026
09:00
Dydd Mawrth 14 Ebr 2026
09:00
Dydd Mercher 15 Ebr 2026
09:00
Dydd Iau 16 Ebr 2026
09:00
Dydd Gwener 17 Ebr 2026
09:00
Dydd Sadwrn 18 Ebr 2026
09:00
Dydd Llun 20 Ebr 2026
09:00
Dydd Mawrth 21 Ebr 2026
09:00
Dydd Mercher 22 Ebr 2026
09:00
Dydd Iau 23 Ebr 2026
09:00
Dydd Gwener 24 Ebr 2026
09:00
Dydd Sul 26 Ebr 2026
09:00