Gweithdy creadigol yw Ysgrifennu Balch gyda Norena Shopland sy’n defnyddio straeon o’r gorffennol i ysbrydoli dehongli creadigol. Gan ganolbwyntio ar ddigwyddiadau a bywydau LHDTC+ yn Ystradgynlais a’r cyffiniau, byddwch yn edrych ar yr holl wahanol ffyrdd o ystyried y straeon hynny. Caiff y rhai sy’n cymryd rhan y cyfle i droi’r straeon bywyd go iawn yma yn ffuglen, ysgrifennu ffeithiol, barddoniaeth/geiriau caneuon, neu gelf ar gyfer cyhoeddiad pwrpasol.
Yr hanesydd LHDTC+ uchel ei pharch Norena Shopland yw awdur gweithiau fel Forbidden Lives: Lesbian, Gay, Bisexual and Transgender Stories from Wales. Mae hi wedi gweithio ar nifer o brosiectau treftadaeth, yn casglu, curadu ac yn ymgynghori gyda sefydliadau gan gynnwys Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ymhlith eraill. Cafodd Norena ei henwi ar Restr Binc Cymru (rhestr flynyddol o’r bobl LHDTC+ mwyaf dylanwadol yng Nghymru a luniwyd gan Wales Online) o 2019-2024, yn ogystal â chael ei chydnabod fel un o fenywod hoyw mwyaf dylanwadol Cymru yn ystod Wythnos Lesbian Visibility 2021.
Ymunwch â ni o 3-6pm ar gyfer y gweithdy cynhwysol hwn i ddathlu mis PRIDE, ac yna i fwynhau dangosiad o ffilmiau comedi byr o’r Wobr Iris am 7pm.
Pris: £5-£10 (Talu Beth Allwch Chi) i’r gweithdy gan gynnwys mynediad y ffilm.
Ffilmiau Byrion o’r Gŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris:’Calon Comedi: Y mwynhad o feddiant ffôn symudol yng nghefn gwlad canolbarth Cymru, y dryswch a achoswyd gan deth goll, un gyfrinach yn ormod i dad Eidalaidd hen ffasiwn, a ffilm gerdd annisgwyl am ddyn moel yn Norwy i chi ei fwynhau. Mae’r casgliad gwych hwn o straeon o archif Gwobr Iris yn dangos y gall hiwmor ddod i straeon LHDTQ+ pan nad ydych yn ei ddisgwyl.
Cliciwch yma am fwy o fanylion am bob ffilm.
Hyd y Ffilm: Tua 50 munud i gyd