NTLThe-Playboy-Western-World

National Theatre Live: The Playboy of the Western World

Ymuna Nicola Coughlan (Bridgerton) ag Éanna
Hardwicke (The Sixth Commandment) a Siobhán
McSweeney (Derry Girls) yn nrama gyfareddol
John Millington Synge am ieuenctid a hunan
ddarganfyddiad.

Mae bywyd Pegeen Flaherty yn cael ei droi wyneb i
waered pan gerdda ddyn ifanc i’w thafarn yn honni
ei fod wedi lladd ei dad. Yn lle cael ei osgoi, daw’r
llofrudd yn dipyn o arwr yn lleol a dechreua ennill
calonnau, hynny yw nes i ail ddyn gyrraedd y
llwyfan yn annisgwyl…

Wedi’i ffilmio’n fyw ar lwyfan yn y Theatr
Genedlaethol, Caitríona McLaughlin sy’n
cyfarwyddo’r stori dywyll, ddoniol hon sy’n
llawn dop gyda chyfrinachau.