Les-Liaisons-Dangereuses-web

National Theatre Live: Les Liaisons Dangereuses (15 TBC)

Yn seiliedig ar nofel Pierre Choderlos de Laclos.

Mae Lesley Manville (Phantom Thread), enillydd Gwobr BAFTA, yn ymuno ag Aidan Turner (Rivals) yn y llwyfaniad newydd a thrawiadol hwn o addasiad enwog Christopher Hampton o’r nofel glasurol. Ymhlith salonau disglair y cyfoethog a’r cefnog, gall un camgymeriad arwain at ddinistr.

Mae’r Marquise de Merteuil yn feistr yng nghelfyddyd goroesi. Ochr yn ochr â’r Vicomte de Valmont magnetig, maent yn troi hudo yn strategaeth a chwant yn arf. Ond pan dry eu cynghrair yn gystadleuaeth, bygythia’r frwydr rhyngddynt ddinistrio pawb o fewn cyrraedd.

Wedi’i ffilmio’n fyw ar lwyfan y Theatr Genedlaethol, Marianne Elliott (Angels in America) sy’n cyfarwyddo’r gêm gyffrous hon o gariad, celwydd a rhyfel cymdeithasol.

Dydd Iau 25 Meh 2026
19:00