National Theatre Live: Hamlet
Enillydd Gwobr Olivier Hiran Abeysekera (Life of Pi) sy’n chwarae rhan Hamlet yn y fersiwn eofn, gyfoes hon o drasiedi enwog Shakespeare.
Wedi ei ddal rhwng dyletswydd ac amheuaeth, gyda grym a braint ar bob tu, mae’r Tywysog ifanc Hamlet yn meiddio gofyn y cwestiwn eithaf – chi’n gwybod pa un.
Cyfarwyddwr y fersiwn newydd miniog, chwaethus a thywyll yma yw Dirprwy Gyfarwyddwr Artistig y Theatr Genedlaethol, Robert Hastie (Standing at the Sky’s Edge, Operation Mincemeat).
TOCYNNAU:
Talwch Beth Allwch Chi: £10, £12*, £14 (*Pris Tocyn a Awgrymir)
Mae tocynnau ar gyfer llawer o’n sioeau a’n darllediadau byw ar werth ar sail talu beth bynnag allwch chi, sy’n golygu y cewch chi ddewis y pris gorau i’ch poced. Noddir tocynnau lefel isaf, tra mae’r pris uchaf yn rhoi ychydig bach ychwanegol i’r Neuadd Les, sy’n helpu ariannu ein gweithgareddau cymunedol.
Ar gyfer pob digwyddiad, fel canllaw, mae’r pris safonol a awgrymir wedi’i amlygu mewn print trwm.