Mettle-web

Mettle

Mae’r perfformiwr unigol arobryn Nicholas Collett yn adrodd hanes gwasanaeth milwrol ei dad ar longau Convoys yn croesi’r Iwerydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Odeseia go iawn, sy’n ein tywys o Sheffield i Lerpwl i Nova Scotia, Boston i Orllewin Affrica ac adref drachefn, yng nghanol bygythiad cyson ymosodiadau gan longau tanfor a thywydd peryglus.

Defnyddir theatr gorfforol a storïo, ynghyd â thirwedd sain ddramatig a cherddoriaeth y 40au, i greu teyrnged i’r rhai a wasanaethodd, y rhai a gollwyd – a’r rhai a oroesodd i adrodd eu hanes.

Cyflwynir mewn cydweithrediad â sefydliad Daparian Foundation – yn cefnogi’r rhai sydd ar deithiau trawma, cyn-filwyr a phersonél goleuadau glas.

Wedi’i ysgrifennu a’i berfformio gan Nicholas Collett, cyfarwyddo Gavin Robertson.

TOCYNNAU:
Talwch Beth Allwch Chi:
£10, £12, £14, £16*, £18 £20 (*Pris Safonol a Awgrymir)

Mae tocynnau ar gyfer llawer o’n sioeau a’n darllediadau byw ar werth ar sail talu beth bynnag allwch chi, sy’n golygu y cewch chi ddewis y pris gorau i’ch poced. Noddir tocynnau lefel isaf, tra mae’r pris uchaf yn rhoi ychydig bach ychwanegol i’r Neuadd Les, sy’n helpu ariannu ein gweithgareddau cymunedol.

Ar gyfer pob digwyddiad, fel canllaw, mae’r pris safonol a awgrymir wedi’i amlygu mewn print trwm.

Dydd Iau 5 Chw 2026
19:30