Mark Griffiths: An Incremental Demise
Mae'r arddangosfa hon yn archwilio'r dewisiadau rydym yn eu hwynebu parthed defnydd tir trwy ffotograffiaeth, straeon personol a thystiolaeth wyddonol.
Mae'r arddangosfa yn agor ar Ddydd Mawrth Hydref 6, 6-8yh, gyda dangosiad o Hollow Mountain.
Mae Hollow Mountain yn ffilm fer sy'n srchwilio effaith ffrwydro chwareli a cholli mannau gwyrdd yn Ne Cymru.
Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o'n trydedd ŵyl “Dihuno'r Hydref”, yn dathlu cymunedau glofaol sydd wedi’u cysylltu â’i gilydd gan dreftadaeth ddiwydiannol a diwylliannol trwy gelfyddydau, ymgyrchu, hanes a diwylliant. Bydd yr ŵyl eleni yn canolbwyntio ar dalent a straeon o gymunedau glofaol De Cymru.