Mari Mathias supported by Angharad Jenkins & Patrick Rimes
Mae Mari Mathias yn creu cerddoriaeth wedi’i hysgogi gan y tirwedd, traddodiad a’r iaith Gymraeg. Mae hi’n dod ag ymchwydd o egni ar y llwyfan, gyda llais melodig, hardd a chain, gan gyfuno straeon a synau gwerin cyffrous gyda’i band chwe pherson.
“Melodïau atmosfferig o’r gorffennol yn hedfan dros weadau, wedi’i gwehyddu gan fand dawnus.”
Mae Angharad Jenkins a Patrick Rimes yn artistiaid gwerin medrus. Fel deuawd, maent yn mynd â’u cariad at gerddoriaeth werin Gymreig i lefelau newydd o agosatrwydd, gyda’u chwarae bywiog a’u harmonïau lleisol.
“Prin y mae sain deuawd ffidlau’n swnio mor fywiog a swynol.”
TOCYNNAU
Talwch Beth Allwch Chi: £12, £14, £16, £18, £20*, £22, £24, £26, £28 (*Pris Safonol a Awgrymir) Mae tocynnau ar gyfer llawer o’n sioeau a’n darllediadau byw ar werth ar sail talu beth bynnag allwch chi, sy’n golygu y cewch chi ddewis y pris gorau i’ch poced. Noddir tocynnau lefel isaf, tra mae’r pris uchaf yn rhoi ychydig bach ychwanegol i’r Neuadd Les, sy’n helpu ariannu ein gweithgareddau cymunedol. Ar gyfer pob digwyddiad, fel canllaw, mae’r pris safonol a awgrymir wedi’i amlygu mewn print trwm.