LM

Lady Maisery

Mae’r band hudolus, Lady Maisery, yn gyfuniad o ddoniau lleisiol ac aml-offerynnol tair artist arobryn – Rowan Rheingans, Hazel Askew a Hannah James – ac maen nhw wedi swyno cynulleidfaoedd ledled y DU ac Ewrop ers dros ddegawd. Mae Lady Maisery yn creu llais unedig, yn lledu straeon am chwaeroliaeth, y frwydr ddynol, a llawenydd byw – “freshest possible take on traditional music” (Folk Radio UK).

Rhyddhawyd eu pumed albwm stiwdio Tender ddiwedd 2022 a derbyniodd glod ym mhob man. Mae’n record drawiadol sy’n archwilio grym bregusrwydd a chryfder caredigrwydd, a chafodd ei ganmol yn “a beguiling blend of ancient and modern” (The Times). Cyrhaeddod Tender yr Official Indie Album Charts yn rhif 18, Official Indie Album Breakers Chart yn rhif 3, cyn treulio blwyddyn gyfan yn 40 uchaf yr Official Folk Chart.

Dydd Iau 16 Ebr 2026
20:00