Gwyl y Fflach

Gwyl y Fflach

Ymunwch â ni am brynhawn o greadigrwydd a
pherfformio, gyda’r cyfle i gymryd rhan mewn
gweithdai drama, drymio, dawns a chrefftau.
Mae rhywbeth at ddant pob oedran, i archwilio,
creu a mwynhau gyda’n gilydd.
Daw uchafbwynt y diwrnod gyda pherfformiad
arbennig gan Dragons’ Heart and Dragons’ Soul,
cwmni theatr dawns sy’n cynnwys perfformwyr
â gallu amrywiol. Yn adnabyddus am eu
gwaith pwerus a mynegiannol, mae’r cwmni’n
cyflwyno darnau hyd lawn, ystyrlon sy’n cael
eu perfformio yn gyfan gwbl gan y Dreigiau eu
hunain, heb gymorth gwirfoddolwyr.
Peidiwch â cholli’r cyflwyniad trawiadol hwn cyn
i’r cwmni fynd ar daith i’r Iseldiroedd, gyda dau
ddarn ysgogol. Ysbrydolwyd Y Golau gan waith
Dylan Thomas, tra bod The Fire and the Bird yn
archwilio’r themâu gwrthdaro,
a heddwch.
Gweithdai:
12-3yp | Pris: Am Ddim
Perfformiad:
4yp | Pris: Talwch Beth Allwch Chi – £8, £10*, £12
TALWCH BETH ALLWCH CHI:
Mae tocynnau ar gyfer llawer o’n sioeau
a’n darllediadau byw ar werth ar sail talu
beth bynnag allwch chi, sy’n golygu y cewch
chi ddewis y pris gorau i’ch poced. Noddir
tocynnau lefel isaf, tra mae’r pris uchaf yn rhoi
ychydig bach ychwanegol i’r Neuadd Les, sy’n
helpu ariannu ein gweithgareddau cymunedol.
Ar gyfer pob digwyddiad, fel canllaw, mae’r
pris safonol a awgrymir wedi’i amlygu
mewn print trwm gyda *.
Dydd Sul 10 Mai 2026
12:00