Mae llofrudd cyfresol sydd ag obsesiwn â’r gampfa, yn lladd ac yn bwyta deliwr cyffuriau lleol am ei brotein. Wrth wneud hyn mae’n tanio rhyfel lleol ffyrnig a gwaedlyd ar ei filltir sgwâr, rhwng gangiau cyffuriau gwrthwynebol.
Wedi'i ysgrifennu gan Tony Burke a'i gynhyrchu gan Craig Russell, sydd hefyd yn serennu yn y brif ran, mae Protein yn cynnwys cast talentog o Gymru gan gynnwys Steven Meo, Kezia Burrows, Charles Dale, Richard Mylan a Kai Owen.
Hyd y Ffilm: 92 munud