Flossy and Boo at The Welfare Ystradgynlais, Swansea

Flossy & Boo: The Impossible Island of Flabbergast

Fe’ch gwahoddir ar antur ryfeddol i chwilio am y lle mwyaf anodd ei ddarganfod sy’n hysbys i chwedl, myth, neu sydd wedi’i guddio rhwng meddyliau ddoe a brecwast yfory… Ynys Amhosibl Flabbergast.

Plymiwch â’ch pen i diroedd anhysbys, rhesymeg wyneb i waered, a nonsens disynnwyr. Dewch i gwrdd â bwystfilod ffantastig, penderfyniadau amhosibl, a dewch wyneb yn wyneb â rhywbeth sy’n rhyfedd o gyfarwydd.

Yn llawn cerddoriaeth fyw, campau rhyngweithiol, a chymysgedd nodweddiadol Flossy a Boo o gomedi clyfar ac anrhefn swynol, mae hon yn sioe sy’n gofyn: Beth tasai’r amhosibl ond yn rhywbeth nad oes neb wedi rhoi cynnig arno eto?

Talwch Beth Allwch Chi: £7, £9*, £11

Mae tocynnau ar gyfer llawer o’n sioeau a’n darllediadau byw ar werth ar sail talu beth bynnag allwch chi, sy’n golygu y cewch chi ddewis y pris gorau i’ch poced. Noddir tocynnau lefel isaf, tra mae’r pris uchaf yn rhoi ychydig bach ychwanegol i’r Neuadd Les, sy’n helpu ariannu ein gweithgareddau cymunedol.

Ar gyfer pob digwyddiad, fel canllaw, mae’r pris safonol a awgrymir wedi’i amlygu mewn print trwm gyda *.

Dydd Iau 13 Awst 2026
14:00