cy

Familia De La Noche: The Great Insect Games

Oes gen ti dy gyhyrau’n barod a dy naid seren orau wedi’i berffeithio?! Os felly, mae’n amser ymuno gyda’r Trychfilod a’r Campau Campus!

Dewch i brofi hwyl yr ŵyl a chymerwch ran yn y gemau byrbwyll o dan ofal eich cyflwynwyr, y ddau griced direidus! Pwy fydd yn ennill y gystadleuaeth nofio, y pry cop neu’r wlithen?! Siwt siap fydd ar y pili pala wrth iddi geisio codi pwysau?! Ydy hi’n bosib i falwoden allu gwisgo menyg focsio?!

Llawenhewch ym miri mawr y seremoni agoriadol a chyd-ganwch Anthem Genedlaethol y Trychfilod yn y sioe lliwgar yma ar gyfer y teulu gyfan.

Crewyd gan Familia de la Noche gyda cherddoriaeth newydd gan HMS Morris ac wedi cynhyrchu mewn partneriaeth â Canolfan Mileniwm Cymru, Articulture, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Theatr Clwyd, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a Gwên o Haf Caerdydd. Cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru