Dragons’ Heart & Dragons’ Soul Double Bill: Y Golau / The Fire and the Bird
Mae Dragons’ Heart and Dragons’ Soul yn gwmni theatr dawns sy’n cynnwys perfformwyr â gallu amrywiol.
Yn adnabyddus am eu gwaith pwerus a mynegiannol, mae’r cwmni’n cyflwyno darnau hyd lawn, ystyrlon sy’n cael eu perfformio yn gyfan gwbl gan y Dreigiau eu hunain, heb gymorth gwirfoddolwyr.
Peidiwch â cholli’r cyflwyniad trawiadol hwn cyn i’r cwmni fynd ar daith i’r Iseldiroedd, gyda dau ddarn ysgogol. Ysbrydolwyd Y Golau gan waith Dylan Thomas, tra bod The Fire and the Bird yn archwilio’r themâu gwrthdaro, a heddwch.
Talwch Beth Allwch Chi: £8, £10*, £12
BETH YW TALWCH BETH ALLWCH CHI?
Mae tocynnau ar gyfer llawer o’n sioeau a’n darllediadau byw ar werth ar sail talu beth bynnag allwch chi, sy’n golygu y cewch chi ddewis y pris gorau i’ch poced. Noddir tocynnau lefel isaf, tra mae’r pris uchaf yn rhoi ychydig bach ychwanegol i’r Neuadd Les, sy’n helpu ariannu ein gweithgareddau cymunedol.
Ar gyfer pob digwyddiad, fel canllaw, mae’r pris safonol a awgrymir wedi’i amlygu mewn print trwm gyda *.