33 Mlynedd o Rocio’r Byd!
Caiff holl ganeuon a chlasuron Holly a’i ffrindiau cerddorol eu chwarae yn fyw ar y llwyfan gan y pum actor a cherddor ifanc gwefreiddiol hyn, sydd bob amser yn gwybod sut i ddiddanu’r dorf gyda’u sioe wych. Mae’r sioe’n cynnwys cerddoriaeth roc a rôl amrwd, baledi swynol, perfformiadau bywiog – a rhai eiliadau gwirioneddol ddoniol! Mae’n ddigwyddiad byw sy’n cynnig profiad heb ei ail o gerddoriaeth Buddy Holly.
Mae cynulleidfaoedd o bob oed ledled y byd wedi’i chael hi’n amhosibl aros yn eu seddi. O Dundee i Dubai, Abertawe i Sweden, Taunton i Wlad Thai a ledled yr Unol Daleithiau, mae miloedd o gefnogwyr wedi dangos eu gwerthfawrogiad trwy sefyll ar eu traed i gymeradwyo a gweiddi “mwy, mwy!”
Felly, p’un a ydych chi’n ifanc o ran oedran neu ysbryd, mae’r noson hon gyda Buddy a’r bechgyn yn siŵr o gael pawb yn canu ac yn dawnsio yn yr eiliau. Beth bynnag fo’r tymor, beth bynnag fo’r esgus i bartio, mae hi’n ‘Ddiwrnod Holly’ bob dydd yng nghwmni Buddy Holly a’r Cricketers!