Blues Echoes at The Welfare Ystradgynlais, Swansea

Blues Echoes

Noson o Straeon a Chanu – Archwilio Gwydnwch a Gobaith

<Mae Bill Taylor-Beales a Phil Okwedy yn plethu cerddoriaeth, cân ac adrodd straeon er mwn archwilio’r cyflwr dynol, gan dynnu ar fyth, chwedl, hanes cymdeithasol a phrofiad personol.

Trwy draddodiadau’r Blues a chanu Ysbrydol, maent yn rhannu straeon am gaethwasiaeth a thlodi a phrotest y dosbarth gweithiol, gan gynnwys cefnogaeth yr Americanwr-Affricanaidd chwedlonol John Henry a Paul Robeson i lowyr De Cymru.

Gyda’u straeon personol am gael eu magu yn sŵn cerddoriaeth wedi’i hysbrydoli gan y Blues, mae’r noson gyffrous a dyrchafol hon yn archwilio sut mae cerddoriaeth wedi adlewyrchu brwydrau cymdeithas, wedi sbarduno gwydnwch a gobaith – ac efallai hyd yn oed yn eich cael chi i ganu.

Hyd y perfformiad: Tua 80 munud, gydag un egwyl

TOCYNNAU:
Talwch Beth Allwch Chi: £10, £12*, £14

Mae tocynnau ar gyfer llawer o’n sioeau a’n darllediadau byw ar werth ar sail talu beth bynnag allwch chi, sy’n golygu y cewch chi ddewis y pris gorau i’ch poced. Noddir tocynnau lefel isaf, tra mae’r pris uchaf yn rhoi ychydig bach ychwanegol i’r Neuadd Les, sy’n helpu ariannu ein gweithgareddau cymunedol.

Ar gyfer pob digwyddiad, fel canllaw, mae’r pris safonol a awgrymir wedi’i amlygu mewn print trwm gyda *.

Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o’n trydedd ŵyl “Dihuno’r Hydref”, yn dathlu cymunedau glofaol sydd wedi’u cysylltu â’i gilydd gan dreftadaeth ddiwydiannol a diwylliannol trwy gelfyddydau, ymgyrchu, hanes a diwylliant. Bydd yr ŵyl eleni yn canolbwyntio ar dalent a straeon o gymunedau glofaol De Cymru.

Dydd Iau 22 Hyd 2026
19:30