Mae Billy Elliot the Musical sy’n seiliedig ar y ffilm a enwebwyd ar gyfer Gwobr Academi®, wedi cipio calonnau miliynau o bobl ers iddi agor yn West End Llundain yn 2005. Wedi'i gosod mewn tref lofaol ogleddol, gyda streic y glowyr ym 1984/85 yn gefndir iddi, mae taith Billy yn ei arwain allan o'r cylch bocsio ac i mewn i ddosbarth bale lle mae'n darganfod angerdd am ddawns sy'n ysbrydoli ei deulu a'i gymuned gyfan ac yn newid ei fywyd am byth.
Hyd y Ffilm: 163 munud (gyda egwyl)