Bassekou Kouyate and Amy Sacko
O Mali, mae’r cerddor chwedlonol a meistr ngoni Bassekou Kouyate yn teithio’r DU am y tro cyntaf fel deuawd gyda’i wraig, y gantores griot uchel ei pharch a’r lleisydd eithriadol Amy Sacko, yn dilyn rhyddhad Djudjon, L’Oiseau de Garana (2024), eu halbwm cyntaf gyda’i gilydd i gyrraedd brig y siartiau.
Gan gysylltu’r gorffennol a’r presennol, bydd hwn yn gyfle unigryw, agos atoch ac anghyffredin i brofi perfformiad sy’n cyrraedd calon Mali – perfformiad personol iawn, mynegiannol, arddull siambr sy’n addo agosatrwydd prin rhwng artistiaid a chynulleidfa, lle fydd pob nodyn a gair yn atseinio’n ddwfn.
TOCYNNAU:
Talwch Beth Allwch Chi: £16, £18*, £20*, £22, £24 (*Pris Safonol a Awgrymir)
Mae tocynnau ar gyfer llawer o’n sioeau a’n darllediadau byw ar werth ar sail talu beth bynnag allwch chi, sy’n golygu y cewch chi ddewis y pris gorau i’ch poced. Noddir tocynnau lefel isaf, tra mae’r pris uchaf yn rhoi ychydig bach ychwanegol i’r Neuadd Les, sy’n helpu ariannu ein gweithgareddau cymunedol.
Ar gyfer pob digwyddiad, fel canllaw, mae’r pris safonol a awgrymir wedi’i amlygu mewn print trwm.