ROH-Giselle-web

The Royal Ballet: Giselle

Pan ddarganfydda’r ferch werin Giselle bod ei chariad Albrecht yn uchelwr sydd wedi ei ddyweddïo i rywun arall, mae hi’n lladd ei hun mewn anobaith.

Mae bale Rhamantaidd perffaith Peter Wright yn cynnwys sgôr atgofus Adolphe Adam mewn stori am serch, brad ac iachawdwriaeth.

TOCYNNAU:
Talwch Beth Allwch Chi:
£12, £14*, £16 (*Pris Safonol a Awgrymir)

Mae tocynnau ar gyfer llawer o’n sioeau a’n darllediadau byw ar werth ar sail talu beth bynnag allwch chi, sy’n golygu y cewch chi ddewis y pris gorau i’ch poced. Noddir tocynnau lefel isaf, tra mae’r pris uchaf yn rhoi ychydig bach ychwanegol i’r Neuadd Les, sy’n helpu ariannu ein gweithgareddau cymunedol.

Ar gyfer pob digwyddiad, fel canllaw, mae’r pris safonol a awgrymir wedi’i amlygu mewn print trwm.

Dydd Sul 8 Maw 2026
14:00