cy

Gwyl y Fflach / Festival of Flair

 

Diwrnod o ddathlu sgiliau a thalentau pobl sy’n byw ag anableddau dysgu.

Mwynhewch berfformiadau gyda gwmniau cynhwysol Dragons Heart and Soul, Agility a Nexus, a ymunwch mewn gweithdai cerdd, drama a chelf a chrefft.

Yn addas ar gyfer pob oedran a gallu.

Dydd Sadwrn Mawrth 11eg – 11yb – 4.30yp

“Cawsom amser hyfryd ddoe yn y Neuadd Les, Ystradgynlais. Roedd croeso mawr i ni a chymaint o bobl gyfeillgar yna – am awyrgylch anhygoel! Mwynhaodd pawb y gweithdai drymio a chelfyddyd. Da iawn i Ysbryd y Ddraig … roedd eich dawns greadigol mor hardd. Bydd pobl Malta yn dwli arnoch chi 😘”

Amanda Snook Bethany Freeman, Hijinx Parent 

“Diolch yn fawr am ein gwahodd i’ch gŵyl. Mae’n ddigwyddiad pwysig – ac mae’n bwysig ei fod yn parhau. Gwelsom berfformiadau oedd yn codi’r galon ac roedd yr awyrgylch yn ddiddan a serchus. Dw i’n siŵr bydd yr ŵyl yn tyfu dros y blynyddoedd.”
Carol Brown, Arlunydd