Theatr Sherman: Pinocchio (Iaith Gymraeg)

Theatr Sherman: Pinocchio (Iaith Gymraeg)

Cynhyrchiad Crëwyd gan y Sherman
PINOCCHIO
Fersiwn newydd gan Jennifer Lunn
Cyfieithiad Cymraeg gan Hanna Jarman

Daw Theatr y Sherman â'i chyflwyniad newydd a llawen o un o straeon mwyaf hudol y byd –Pinocchio i'r Neuadd Les Ystradgynlais fis Tachwedd yma.
Mae Pinocchio yn dyheu am gael bod yn fachgen go iawn, er mwyn gweld y byd mawr. Mae e eisiau bod ‘yn dda, yn garedig ac am ddweud y gwir’, ond ar ôl dweud celwydd bach mae ei drwyn yn tyfu ac mae’n mynd ar antur wyllt yn llawn peli eira, gemau gwirion, ffrindiau direidus newydd a llond trol o hwyl.
A fydd Pinocchio yn dysgu’r gwahaniaeth rhwng yr hyn sy’n iawn a’r hyn sy’n anghywir ac yn cyrraedd adre mewn pryd i’r Nadolig?
Pinocchio yw’r cyflwyniad perffaith i ryfeddod theatr fyw i blant 3-6 oed a’u teuluoedd. Yn llawn dop â cherddoriaeth, chwerthin a llu o gymeriadau poblogaidd a ddaw’n fyw diolch i gast o actorion-cerddorion.

Hyd y perfformiad: Tua 60 munud
Perfformir yn Gymraeg
Addas i blant 3-6 oed

A Made by Sherman Production
PINOCCHIO
A new version by Jennifer Lunn Welsh
Translation by Hanna Jarman

Sherman Theatre brings its joyful new retelling of one of the world’s most magical stories –Pinocchio to The Welfare Ystradgynlais this November.
Pinocchio longs to be real so he can explore the big wide world. He wants to be ‘good, kind and true’, but after a tiny fib makes his nose grow, he runs away on a whirlwind adventure of snowballs, silly games, mischievous new friends, and chaotic fun.
Will he learn the difference between right and wrong and make it home in time for Christmas?
Pinocchio is the perfect introduction to the wonder of live theatre for children aged 3-6. Packed with music, laughter, and a host of much-loved characters, brought to life by an actor-musician cast.

Running time: Approx. 60 minutes
Performed in Welsh
Ages 3-6
Dydd Iau 19 Tach 2026
11:00