ROH (2)

Dathlu Mis Hanes LHDTC+: Tocyn Diwrnod Cyfan

Fel rhan o’n cyfraniad at Fis Hanes LHDTC+ mis Chwefror yma, rydym yn cynnal diwrnod llawn o ddigwyddiadau yn dathlu hanes, creadigrwydd ac ymgyrchu hoyw.

Bydd y diwrnod yn dechrau gyda gweithdy barddoniaeth dwy awr o hyd, dan arweiniad yr awdur, y bardd a’r ymgyrchwr Simon Maddrell. Dilynir hyn gan ddangosiad o Iris On The Move: When Love Broke The Law, sy’n cynnwys dwy ffilm fer LHDTC+ o’r Iris Prize Film Festival, cyn darlleniad barddoniaeth a sesiwn holi ac ateb gyda Simon, Jonathan Blake – un o arwyr Lesbians & Gays Support the Miners – a Chyfarwyddwr yr Iris Prize, Berwyn Rowlands. Ar ôl egwyl am fwyd, bydd y digwyddiad yn dod i ben gyda dangosiad gyda’r nos o’r ffilm Pride (2014), sy’n adrodd stori wir am y gynghrair annisgwyl rhwng ymgyrchwyr LHDTC+ a glowyr ar streic yn ystod streic y glowyr 1984–85.

Ceir manylion llawn holl ddigwyddiadau’r dydd ar ein tudalen rhestrau Mis Hanes LHDTC+.

TOCYNNAU:
Pris tocynnau’r gweithdy barddoniaeth £5.
Pris tocynnau’r dangosiadau ffilm yn dechrau o £4.40.
Mae’r digwyddiad darllen barddoniaeth a phanel Holi ac Ateb am ddim.

GOSTYNGIADAU:
Archebwch docynnau ar gyfer unrhyw ddau ddigwyddiad yn y rhaglen a derbyniwch ostyngiad o £1.50 (gostyngiad awtomatig wrth dalu).

Ydych chi’n bwriadu mynychu’r holl ddigwyddiadau?

Archebwch Docyn Dydd am £12, fydd yn rhoi mynediad i bob digwyddiad drwy gydol y dydd, yn dibynnu ar argaeledd.