Out of the Box at The Welfare Ystradgynlais, Swansea

Out Of The Box

Sioe gomedi syrcas sy’n addas i deuluoedd yw Out of the Box. Mae’n cyflwyno cymeriad annisgwyl a’i focs, sy’n swyno cynulleidfaoedd gyda rhyfeddod llawen, fel nad ydynt yn gwybod byth beth i’w ddisgwyl nesa. Gyda phob agoriad o’r bocs daw tric newydd, actiau bychain, a chyfleoedd doniol iawn i gymryd rhan.

Wedi ei gyflwyno drwy glownio di-eiriau, mae gwrthrychau cyffredin yn troi’n anghyffredin yn nwylo Darryl – a byddwch chi’n methu credu’r ymateb y mae’n cael gan frws dannedd yn y finale !

Mae’r sioe yn ddathliad o chwarae drwy gydol eich bywyd, beth bynnag yw eich oedran, gan ddod â chenedlaethau ynghyd drwy ddwlu medrus iawn.

Dydd Sadwrn 14 Chw 2026
14:00