A group of six people dressed in traditional Zulu attire pose happily. Five men wear leopard print outfits with shields; a woman in colorful beads stands in front.

Zulu Tradition

O ranbarth mwyngloddio KwaZulu Natal i lwyfan y byd; ailgynnau gwreichion diwylliant a threftadaeth y Zulu trwy gân a dawns draddodiadol De Affrica.

Mae Zulu Tradition yn gwmni o gantorion a dawnswyr Zulu ifanc o KwaZulu Natal, yn Ne Affrica. Maent yn cyflwyno cymysgedd gwefreiddiol o harmonïau Affricanaidd a dawns egnïol, athletaidd – mewn dillad traddodiadol gyda chefnogaeth rythmau drymiau. Mae Zulu Tradition yn ymestyn yn ôl i’r gorffennol i warchod sgiliau hynafol wrth ymestyn ymlaen hefyd tuag at Affrica gyfoes. Mae eu caneuon yn draddodiadol ac yn gyfoes hefyd yn dilyn arddulliau traddodiadol.

Gweithdy: 5.30yh – 6.15yh
Perfformiad: 7yh
Tocynnau: £12 – £24 (Talwch Beth Allwch Chi)