Y Silwriaid: Twmpath
Noson wych llawn joio a dawnsio gwerin yng nghwmni Band Twmpath y Silwriaid!
Dewch i ddawnsio gydag Emyr Jones ein galwr ysbrydoledig yn esbonio ac yn eich bugeilio ar draws y neuadd i hen alawon draddodiadol Cymreig, ac ambell i gân hefyd!
Y Silwriaid yw Geraint Roberts (chwibanogl/pibau) Tracy Hales (soddgrwth/ffidl) Ian “Titch” Thomas (Gitarydd a Blaenwr Up The Creek) ac Aneirin Jones o Vrï ar y ffidil.
Maent yn grwp o gerddorion Gwm Tawe ac ar draws y De, gyda phob math o dylanwadau cerddorol gwahanol. Yn diweddar maen nhw wedi bod yn dod at ei gilydd i berfformio yn rheolaidd a rhannu ein traddodiadau unigryw yng Nghymru, boed yn noson ganu Cymraeg neu dawnsio gwerin. Dewch yn llu am Dwmpath!