cy

Y Fenyw Mewn Du

Y Consortiwm Cymraeg yn cyflwyno:
Y Fenyw Mewn Du
Gan Stephen Malatratt & Susan Hill
Cyfieithwyd gan Gwawr Loader
Cyfarwyddwyd gan Geinor Styles

Am y tro cyntaf, trwy gyfrwng y Gymraeg, cyfle i brofi sioe lwyddiannus o’r West End sydd wedi bod yn codi ias ar gynulleidfaoedd ers 30 mlynedd.

Hanner awr wedi naw ar Noswyl Nadolig oedd hi …

Bu cyfnod pan nad oedd Arthur Kipps yn credu mewn ysbrydion ond roedd hynny cyn iddo ymweld â Thŷ’r Gors Ddu.

Wedi cyrraedd pen ei dennyn, mae Arthur yn cyflogi actor i’w helpu i adrodd ei stori er mwyn gwaredu’r erchyllterau sy’n hunllef iddo.

Yn dilyn llwyddiant Shirley Valentine, mae’r Consortiwm Cymraeg yn dychwelyd ac yn cynnig llwyfaniad ffres o’r stori frawychus hon. Feiddiwch chi ddod i weld Y Fenyw Mewn Du


A Welsh-language translation of thrilling West End favourite The Woman in Black, from the team behind last year’s hit production of Shirley Valentine. Resources available for learners.

Y Consortiwm Cymraeg presents:
Y Fenyw Mewn Du
By Stephen Malatratt & Susan Hill
Translated by Gwawr Loader
Directed by Geinor Styles

The Welsh language premiere of the West End hit that has been thrilling audiencesfor 30 years.

It was nine-thirty on Christmas Eve…

There was a time when Arthur Kipps did not believe in ghosts. But that was beforehe visited Eel Marsh House. In desperation, Arthur hires an actor to help him tell his story and finally rid him of the horrors that haunt him.

Following the success of Shirley Valentine, Y Consortiwm Cymraeg returns with a fresh staging of this terrifying tale. Will you dare to see Y Fenyw Mewn Du

Dydd Iau 16 Tach 2023
19:30
Dydd Gwener 17 Tach 2023
19:30
Dydd Sadwrn 18 Tach 2023
19:30