Twmpath yr Hydref gyda Brython | Autumn Twmpath with Brython

Twmpath yr Hydref gyda Brython | Autumn Twmpath with Brython

Bydd Emyr Jones yn galw’r dawnsiau a’r band Brython (Tracy Hales, Aneirin Jones, Geraint Roberts, a Ian “Titch” Thomas) yn canu alawon ac ambell i gân draddodiadol. Dewch i ddawnsio, gwrando, canu ac i ymuno yn yr hwyl.
Does dim eisiau profiad o ddawnsio – bydd Emyr yn esbonio popeth!

TOCYNNAU:
Talwch Beth Allwch Chi: £6, £8, £10*, £12
Mae tocynnau ar gyfer llawer o’n sioeau a’n darllediadau byw ar werth ar sail talu beth bynnag allwch chi, sy’n golygu y cewch chi ddewis y pris gorau i’ch poced. Noddir tocynnau lefel isaf, tra mae’r pris uchaf yn rhoi ychydig bach ychwanegol i’r Neuadd Les, sy’n helpu ariannu ein gweithgareddau cymunedol.

Ar gyfer pob digwyddiad, fel canllaw, mae’r pris safonol a awgrymir wedi’i amlygu mewn print trwm gyda *.

Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o'n trydedd ŵyl “Dihuno'r Hydref”, yn dathlu cymunedau glofaol sydd wedi’u cysylltu â’i gilydd gan dreftadaeth ddiwydiannol a diwylliannol trwy gelfyddydau, ymgyrchu, hanes a diwylliant. Bydd yr ŵyl eleni yn canolbwyntio ar dalent a straeon o gymunedau glofaol De Cymru.
Dydd Sadwrn 24 Hyd 2026
19:00